2012 Rhif 248 (Cy. 41)

addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol)  (Cymru) (Diwygio) 2012

NODYN ESBONIADOL

 (Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac i ysgolion arbennig (os cynhelir hwy felly ai peidio). Maent yn darparu (ymysg pethau eraill) ar gyfer diwrnod ysgol sydd fel arfer i'w rannu'n ddwy sesiwn (gydag egwyl yn y canol), a bod ysgolion (nad ydynt yn ysgolion meithrin) yn cyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 5 yn Rheoliadau 2003 i ddarparu i hyd at bedair sesiwn yn y flwyddyn ysgol 2011-2012 gyfrif fel sesiynau pan oedd yr ysgol wedi cyfarfod os oeddent wedi eu neilltuo i wella safonau dysgu neu arferion rheoli staff yr ysgol gyda'r bwriad o wella neu asesu sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion yn yr ysgol.

 


2012 Rhif 248 (Cy. 41)

Addysg,  Cymru

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed                               1 Chwefror 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       2 Chwefror 2012

Yn dod i rym                      24 Chwefror 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996([1]) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar    24 Chwefror 2012.

Diwygio'r Rheoliadau

2. Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003([3]) fel a ganlyn.

3. Yn rheoliad 5, yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy'n dod o fewn y flwyddyn ysgol 2011-2012 sy'n cael ei neilltuo (yn llwyr neu yn bennaf) i wella safonau dysgu neu arferion rheoli staff yn yr ysgol gyda'r bwriad o wella neu asesu sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion mewn ysgol a gynhelir.”.

 

 

Leighton Andrews

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

1 Chwefror 2012



([1])           1996 p.56. Mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), a diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). I gael ystyr “regulations” a “prescribed” gweler adran 579(1).

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

([3])           O.S. 2003/3231 (Cy.311); fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2006/1262 (Cy.119), O.S. 2008/1739 (Cy.171) ac O.S.  2011/149 (Cy.33).